NEWYDDION
Gwyl Fwyd Castell Newydd Emlyn
Mae cymuned tref Castell Newydd Emlyn wedi dod at ei gilydd unwaith yn rhagor i drefnu’r ŵyl fwyd ar 9fed Mehefin 2018.
Am yr wythfed blwyddyn yn olynol bydd caeau chwarae Brenin Siôr V dan ei sang gyda phob math o fwydydd. Bydd cynhyrchwyr lleol yn heidio i’r ŵyl eto i arddangos eu cynnyrch o safon uchel ac eleni mae’r pwyllgor yn addo diwrnod yn llawn adloniant, gweithgareddau a mwy o gynhyrchwyr ac wrth gwrs yr arddangosfeydd coginio poblogaidd. Helena Lewis o werthwyr tai Dai Lewis bydd yn agor yr ŵyl am 11yb. Mae amserlen brysur gyda ni yn y gegin gyda dau gogydd. Bydd yr arddangosfa gyntaf gan Mandy Walters o Cardigan Bay Fish ac ein hail cogydd yw Jayne Holland o Veganishmum. Maent yn edrych ymlaen at arddangos eu sgiliau ac at goginio i’r gynulleidfa.
Bydd ysgolion lleol gan gynnwys Y Ddwylan, Cenarth a Phenboyr yn perfformio ar y llwyfan i gefnogi’r digwyddiad lleol. Bydd perfformiadau corau ysgolion Gyfun Emlyn a Bro Teifi, unawdwyr talentog yn ogystal ag ymweliad gan Sali Mali yn sicrhau y bydd yn ddiwrnod i’w gofio ac i ddathlu’r dref. Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn Newcastle Emlyn Food Festival (cofiwch wasgu “hoffi”!) neu dilynwch ni ar Twitter @gwylfwydcne – Mae’r dref yn edrych ymlaen at eich croesawi ar 9fed Mehefin yng Ngŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn rhwng 10yb a 4yp.