Cyngor Tref Castell Newydd Emlyn
Tref farchnad yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castell Newydd Emlyn (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol). Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol. (o Wicipedia).